6. Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i'r trueiniaid.
7. Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a'u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.
8. Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder;
9. Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a'u hanwireddau, amlhau ohonynt:
10. Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd.
11. Os gwrandawant hwy, a'i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.
12. Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth.
13. Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.
14. Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a'u bywyd gyda'r aflan.
15. Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.
16. Felly hefyd efe a'th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster.
17. Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.
18. Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â'i ddyrnod: yna ni'th wared iawn mawr.