24. Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion.
25. Pob dyn a'i gwêl; a dyn a'i cenfydd o bell.
26. Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.
27. Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;
28. Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth.
29. Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef?
30. Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr.
31. Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth.
32. Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt.