1. Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,
2. Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw.
3. O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i'm Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder.
4. Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.
5. Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe.
6. Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i'r trueiniaid.
7. Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a'u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.