8. I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.
9. Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i'r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.
10. Ond ni ddywed neb, Pa le y mae Duw, yr hwn a'm gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?
11. Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd.
12. Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe.
13. Diau na wrendy Duw oferedd, ac nad edrych yr Hollalluog arno.
14. Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho.
15. Ac yn awr, am nad yw felly, efe a ymwelodd yn ei ddigofaint; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi:
16. Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth.