11. Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â'ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.
12. Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef:
13. Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: Duw sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn.
14. Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â'ch geiriau chwi.
15. Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru.
16. Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,)
17. Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl.
18. Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i.
19. Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion.
20. Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf.
21. Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn.
22. Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y'm cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.