4. Maent yn troi yr anghenog allan o'r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant.
5. Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i'w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i'w plant.
6. Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant.
7. Gwnânt i'r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni.
8. Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig.
9. Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd.
10. Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog.
11. Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig.
12. Y mae gwŷr yn griddfan o'r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn.
13. Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.
14. Gyda'r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a'r anghenog; a'r nos y bydd efe fel lleidr.
15. A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb.
16. Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y thai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni.
17. Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy: dychryn cysgod marwolaeth yw, os edwyn neb hwynt.
18. Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear: ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd.