Hen Destament

Testament Newydd

Job 23:6-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A ddadlau efe i'm herbyn â helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof.

7. Yno yr uniawn a ymresymai ag ef: felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr.

8. Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw efe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef:

9. Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled:

10. Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur.

11. Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni ŵyrais.

12. Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na'm hymborth angenrheidiol.

13. Ond y mae efe yn un, a phwy a'i try ef? a'r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a'i gwna.

14. Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o'r fath bethau.

15. Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.

16. Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon, a'r Hollalluog a'm cythryblodd:

17. Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o'm gŵydd.

Darllenwch bennod gyflawn Job 23