Hen Destament

Testament Newydd

Job 23:12-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na'm hymborth angenrheidiol.

13. Ond y mae efe yn un, a phwy a'i try ef? a'r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a'i gwna.

14. Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o'r fath bethau.

15. Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.

Darllenwch bennod gyflawn Job 23