Hen Destament

Testament Newydd

Job 21:24-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a'i esgyrn yn iraidd gan fêr.

25. A'r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch.

26. Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a'r pryfed a'u gorchuddia hwynt.

27. Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a'r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn.

28. Canys dywedwch, Pa le y mae tŷ y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion?

29. Oni ofynasoch chwi i'r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy,

30. Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan.

31. Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth?

Darllenwch bennod gyflawn Job 21