Hen Destament

Testament Newydd

Job 21:20-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog.

21. Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef?

22. A ddysg neb wybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai uchel.

23. Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl.

24. Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a'i esgyrn yn iraidd gan fêr.

25. A'r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch.

26. Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a'r pryfed a'u gorchuddia hwynt.

27. Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a'r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn.

28. Canys dywedwch, Pa le y mae tŷ y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion?

29. Oni ofynasoch chwi i'r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy,

30. Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan.

31. Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth?

32. Eto efe a ddygir i'r bedd, ac a erys yn y pentwr.

33. Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o'i flaen ef.

34. Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?

Darllenwch bennod gyflawn Job 21