1. A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2. Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur.
3. Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch.
4. A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd?
5. Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau.
6. Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd.
7. Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth?
8. Eu had hwy sydd safadwy o'u blaen gyda hwynt, a'u hiliogaeth yn eu golwg.
9. Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy.