Hen Destament

Testament Newydd

Job 18:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.

13. Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef.

14. Ei hyder ef a dynnir allan o'i luesty: a hynny a'i harwain ef at frenin dychryniadau.

15. Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef.

16. Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a'i frig a dorrir oddi arnodd.

17. Ei goffadwriaeth a gollir o'r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol.

18. Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o'r byd.

19. Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef.

20. Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a'r rhai o'r blaen a gawsant fraw.

21. Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir; a dyma le y dyn nid edwyn Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Job 18