1. A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,
2. Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn.
3. Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi?
4. O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o'i lle?
5. Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha.
6. Goleuni a dywylla yn ei luesty ef; a'i lusern a ddiffydd gydag ef.
7. Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a'i gyngor ei hun a'i bwrw ef i lawr.
8. Canys efe a deflir i'r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe.
9. Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a'r gwylliad fydd drech nag ef.