Hen Destament

Testament Newydd

Job 17:5-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Yr hwn a ddywed weniaith i'w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant.

6. Yn ddiau efe a'm gosododd yn ddihareb i'r bobl, ac o'r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt.

7. Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod.

8. Y rhai uniawn a synnant am hyn; a'r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr.

9. Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a'r glân ei ddwylo a chwanega gryfder.

10. Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi.

11. Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon.

12. Gwnânt y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch.

13. Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely.

14. Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a'm chwaer wyt.

15. A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith?

16. Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.

Darllenwch bennod gyflawn Job 17