1. Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi.
2. Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt?
3. Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i?
4. Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt.
5. Yr hwn a ddywed weniaith i'w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant.
6. Yn ddiau efe a'm gosododd yn ddihareb i'r bobl, ac o'r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt.
7. Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod.
8. Y rhai uniawn a synnant am hyn; a'r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr.
9. Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a'r glân ei ddwylo a chwanega gryfder.
10. Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi.
11. Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon.