Hen Destament

Testament Newydd

Job 16:6-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid?

7. Ond yn awr efe a'm blinodd i; anrheithiaist fy holl gynulleidfa:

8. A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a'm culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.

9. Yn ei ddicllondeb y'm rhwyga yr hwn a'm casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn.

10. Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn.

11. Duw a'm rhoddes i'r anwir; ac a'm trodd i ddwylo yr annuwiolion.

12. Yr oeddwn yn esmwyth; ond efe a'm drylliodd, ac a ymaflodd yn fy ngwddf, ac a'm drylliodd yn chwilfriw, ac a'm cododd yn nod iddo ei hun.

13. Ei saethyddion ef sydd yn fy amgylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear.

14. Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr.

15. Gwnïais sachlen ar fy nghroen, a halogais fy nghorn yn y llwch.

16. Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau:

17. Er nad oes gamwedd yn fy nwylo; a bod fy ngweddi yn bur.

18. O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i'm gwaedd.

19. Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a'm tystiolaeth yn yr uchelder.

20. Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Job 16