Hen Destament

Testament Newydd

Job 15:14-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a'r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn?

15. Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a'r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef.

16. Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr?

17. Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a'r hyn a welais a fynegaf.

18. Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant:

19. I'r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.

20. Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.

21. Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.

22. Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno.

23. Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.

24. Cystudd a chyfyngdra a'i brawycha ef; hwy a'i gorchfygant, fel brenin parod i ryfel.

25. Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd.

26. Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei darianau:

27. Canys efe a dodd ei wyneb â'i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau.

28. A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau.

29. Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear.

30. Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef.

31. Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef.

32. Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a'i gangen ni lasa.

33. Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden.

Darllenwch bennod gyflawn Job 15