3. Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a'th waradwyddo?
4. Canys dywedaist, Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.
5. Ond, O na lefarai Duw, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn,
6. A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â'r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd.
7. A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?
8. Cyfuwch â'r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod?
9. Mae ei fesur ef yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r môr.
10. Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a'i rhwystra ef?
11. Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny?