Hen Destament

Testament Newydd

Job 11:12-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt.

13. Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef;

14. Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai:

15. Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni:

16. Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.

17. Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.

18. Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.

19. Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a'th ddychryno, a llawer a ymbiliant â'th wyneb.

20. Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a'u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

Darllenwch bennod gyflawn Job 11