10. Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a'i rhwystra ef?
11. Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny?
12. Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt.
13. Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef;
14. Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai:
15. Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni:
16. Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.
17. Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.
18. Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.