Hen Destament

Testament Newydd

Job 1:6-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt.

7. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.

8. A dywedodd yr Arglwydd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?

9. Yna Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw?

10. Oni chaeaist o'i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a'i dda ef a gynyddodd ar y ddaear.

11. Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â'r hyn oll sydd ganddo, ac efe a'th felltithia o flaen dy wyneb.

12. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Wele, yr hyn oll sydd eiddo ef yn dy law di; yn unig yn ei erbyn ef ei hun nac estyn dy law. Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd.

13. A dydd a ddaeth, pan oedd ei feibion ef a'i ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf.

14. A daeth cennad at Job, ac a ddywedodd, Yr ychen oedd yn aredig, a'r asynnod oedd yn pori gerllaw iddynt;

15. A'r Sabeaid a ruthrasant, ac a'u dygasant ymaith; y llanciau hefyd a drawsant hwy â min y cleddyf, a mi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.

16. Tra yr oedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Tân Duw a syrthiodd o'r nefoedd, ac a losgodd y defaid, a'r gweision, ac a'u hysodd hwynt; ond myfi fy hunan yn unig a ddihengais i fynegi i ti.

17. Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Y Caldeaid a osodasant dair byddin, ac a ruthrasant i'r camelod, ac a'u dygasant ymaith, ac a drawsant y llanciau â min y cleddyf; a minnau fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.

18. Tra yr ydoedd hwn yn llefaru, un arall hefyd a ddaeth, ac a ddywedodd, Dy feibion a'th ferched oedd yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf:

19. Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.

20. Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;

Darllenwch bennod gyflawn Job 1