1. Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a'i enw Job; ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.
2. Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched.
3. A'i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion; ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.
4. A'i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt.