Hen Destament

Testament Newydd

Job 1:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr oedd gŵr yng ngwlad Us a'i enw Job; ac yr oedd y gŵr hwnnw yn berffaith ac yn uniawn, ac yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni.

2. Ac iddo y ganwyd saith o feibion, a thair o ferched.

3. A'i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can iau o ychen, a phum cant o asynnod, a llawer iawn o wasanaethyddion; ac yr oedd y gŵr hwn yn fwyaf o holl feibion y dwyrain.

4. A'i feibion ef a aent ac a wnaent wledd yn eu tai, bob un ar ei ddiwrnod; ac a anfonent ac a wahoddent eu tair chwaer i fwyta ac i yfed gyda hwynt.

5. A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a'u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant Dduw yn eu calonnau. Felly y gwnâi Job yr holl ddyddiau hynny.

6. A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt.

7. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi.

8. A dywedodd yr Arglwydd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?

9. Yna Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw?

10. Oni chaeaist o'i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn oll sydd eiddo oddi amgylch? ti a fendithiaist waith ei ddwylo ef, a'i dda ef a gynyddodd ar y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Job 1