Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 9:5-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a'r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd.

6. Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr Arglwydd.

7. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt: canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl?

8. Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â'i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog, eithr o'i fewn y gesyd gynllwyn iddo.

9. Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?

10. Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a'r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith.

11. A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau, ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.

12. Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd?

13. A dywedodd yr Arglwydd, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi;

14. Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt:

15. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a'u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a'u diodaf hwynt â dwfr bustl.

16. Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na'u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.

17. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 9