Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 9:15-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a'u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a'u diodaf hwynt â dwfr bustl.

16. Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na'u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.

17. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,

18. A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr.

19. Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y'n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i'n trigfannau ein bwrw ni allan.

20. Eto gwrandewch air yr Arglwydd, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i'ch merched, a galar bob un i'w gilydd.

21. Oherwydd dringodd angau i'n ffenestri, ac efe a ddaeth i'n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a'r gwŷr ieuainc o'r heolydd.

22. Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.

23. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth;

24. Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr Arglwydd.

25. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â'r rhai dienwaededig;

26. A'r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â'r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a'r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 9