Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 8:8-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr Arglwydd sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.

9. Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr Arglwydd; a pha ddoethineb sydd ynddynt?

10. Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a'u meysydd i'r rhai a'u meddianno: canys o'r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod; o'r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.

11. Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.

12. A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr Arglwydd.

13. Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr Arglwydd; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a'r ddeilen a syrth; a'r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.

14. Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i'r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr Arglwydd ein Duw a'n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i'w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd.

15. Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.

16. O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a'r rhai sydd yn trigo ynddi.

17. Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i'ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a'ch brathant chwi, medd yr Arglwydd.

18. Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof.

19. Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y'm digiasant â'u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?

20. Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 8