Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 8:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A hwy a'u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a'r rhai a wasanaethasant, a'r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a'r rhai a geisiasant, a'r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.

3. Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o'r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd Arglwydd y lluoedd.

4. Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?

5. Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd.

6. Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i'w yrfa, megis march yn rhuthro i'r frwydr.

7. Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a'r aran, a'r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd.

8. Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr Arglwydd sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.

9. Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr Arglwydd; a pha ddoethineb sydd ynddynt?

10. Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a'u meysydd i'r rhai a'u meddianno: canys o'r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod; o'r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.

11. Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.

12. A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr Arglwydd.

13. Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr Arglwydd; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a'r ddeilen a syrth; a'r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 8