Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 8:13-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr Arglwydd; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a'r ddeilen a syrth; a'r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.

14. Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i'r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr Arglwydd ein Duw a'n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i'w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd.

15. Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.

16. O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a'r rhai sydd yn trigo ynddi.

17. Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i'ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a'ch brathant chwi, medd yr Arglwydd.

18. Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof.

19. Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y'm digiasant â'u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?

20. Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.

21. Am friw merch fy mhobl y'm briwyd i: galerais; daliodd synder fi.

22. Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 8