1. Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,
2. Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr Arglwydd.
3. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a'ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma.
4. Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd ydynt.
5. Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a'i gymydog;
6. Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a'r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i'ch niwed eich hun;
7. Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i'ch tadau chwi, yn oes oesoedd.
8. Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les.
9. Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;
10. Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd‐dra hyn oll?
11. Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr Arglwydd.