Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 6:4-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Paratowch ryfel yn ei herbyn hi; codwch, ac awn i fyny ar hanner dydd. Gwae ni! oherwydd ciliodd y dydd, canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant.

5. Codwch, ac awn i fyny o hyd nos, a distrywiwn ei phalasau hi.

6. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem. Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi; gorthrymder yw hi oll o'i mewn.

7. Megis y gwna ffynnon i'w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron.

8. Cymer addysg, O Jerwsalem, rhag i'm henaid i ymado oddi wrthyt; rhag i mi dy osod di yn anrhaith, yn dir anghyfanheddol.

9. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Gan loffa y lloffant weddill Israel fel gwinwydden; tro dy law yn ei hôl, megis casglydd grawnwin i'r basgedau.

10. Wrth bwy y dywedaf fi, a phwy a rybuddiaf, fel y clywant? Wele, eu clust hwy sydd ddienwaededig, ac ni allant wrando: wele, dirmygus ganddynt air yr Arglwydd; nid oes ganddynt ewyllys iddo.

11. Am hynny yr ydwyf fi yn llawn o lid yr Arglwydd; blinais yn ymatal: tywalltaf ef ar y plant yn yr heol, ac ar gynulleidfa y gwŷr ieuainc hefyd: canys y gŵr a'r wraig a ddelir, yr henwr a'r llawn o ddyddiau.

12. A'u tai a ddigwyddant i eraill, eu meysydd a'u gwragedd hefyd: canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad, medd yr Arglwydd.

13. Oblegid o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod: ac o'r proffwyd hyd yr offeiriad, pob un sydd yn gwneuthur ffalster.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 6