Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 6:27-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Mi a'th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.

28. Cyndyn o'r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib; efydd a haearn ŷnt; llygru y maent hwy oll.

29. Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith.

30. Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt; am wrthod o'r Arglwydd hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 6