Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 6:22-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear.

23. Yn y bwa a'r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.

24. Clywsom sôn amdanynt; ein dwylo a laesasant; blinder a'n daliodd, fel gofid gwraig yn esgor.

25. Na ddos allan i'r maes, ac na rodia ar hyd y ffordd: canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch.

26. Merch fy mhobl, ymwregysa â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni.

27. Mi a'th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.

28. Cyndyn o'r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib; efydd a haearn ŷnt; llygru y maent hwy oll.

29. Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith.

30. Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt; am wrthod o'r Arglwydd hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 6