Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 6:10-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Wrth bwy y dywedaf fi, a phwy a rybuddiaf, fel y clywant? Wele, eu clust hwy sydd ddienwaededig, ac ni allant wrando: wele, dirmygus ganddynt air yr Arglwydd; nid oes ganddynt ewyllys iddo.

11. Am hynny yr ydwyf fi yn llawn o lid yr Arglwydd; blinais yn ymatal: tywalltaf ef ar y plant yn yr heol, ac ar gynulleidfa y gwŷr ieuainc hefyd: canys y gŵr a'r wraig a ddelir, yr henwr a'r llawn o ddyddiau.

12. A'u tai a ddigwyddant i eraill, eu meysydd a'u gwragedd hefyd: canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad, medd yr Arglwydd.

13. Oblegid o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod: ac o'r proffwyd hyd yr offeiriad, pob un sydd yn gwneuthur ffalster.

14. A hwy a iachasant friw merch fy mhobl i yn esmwyth, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; er nad oedd heddwch.

15. A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd‐dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant; yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant, medd yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 6