Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 6:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ymgynullwch i ffoi, meibion Benjamin, o ganol Jerwsalem, ac yn Tecoa utgenwch utgorn; a chodwch ffagl yn Beth‐haccerem: canys drwg a welir o'r gogledd, a dinistr mawr.

2. Cyffelybais ferch Seion i wraig deg foethus.

3. Ati hi y daw y bugeiliaid â'u diadellau: yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll; porant bob un yn ei le.

4. Paratowch ryfel yn ei herbyn hi; codwch, ac awn i fyny ar hanner dydd. Gwae ni! oherwydd ciliodd y dydd, canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant.

5. Codwch, ac awn i fyny o hyd nos, a distrywiwn ei phalasau hi.

6. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem. Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi; gorthrymder yw hi oll o'i mewn.

7. Megis y gwna ffynnon i'w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 6