Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 52:5-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r brenin Sedeceia.

6. Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o'r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad.

7. Yna y torrwyd y ddinas; a'r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o'r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos.

8. Ond llu y Caldeaid a ymlidiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, a'i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho.

9. Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a'i dygasant ef at frenin Babilon i Ribla yng ngwlad Hamath; ac efe a roddodd farn arno ef.

10. A brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla.

11. Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a'i rhwymodd ef â chadwyni: a brenin Babilon a'i harweiniodd ef i Babilon, ac a'i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth.

12. Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem;

13. Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr, a losgodd efe â thân.

14. A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch.

15. Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o'r bobl wael, a'r gweddill o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a'r gweddill o'r bobl.

16. Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr.

17. A'r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a'r ystolion, a'r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 52