Ac efe a gymerodd o'r ddinas ystafellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennaf y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas.