Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 51:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad: canys ei barn a gyrraedd i'r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau.

10. Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr Arglwydd ein Duw.

11. Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr Arglwydd a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i'w dinistrio hi; canys dial yr Arglwydd yw hyn, dial ei deml ef.

12. Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr Arglwydd a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon.

13. Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy drysorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd‐dod.

14. Arglwydd y lluoedd a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Diau y'th lanwaf â dynion megis â lindys; a hwy a ganant floddest i'th erbyn.

15. Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall.

16. Pan roddo efe ei lef, y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaear: ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda'r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o'i drysorau.

17. Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt.

18. Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt.

19. Nid fel y rhai hyn, eithr Lluniwr y cwbl oll, yw rhan Jacob; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: Arglwydd y lluoedd yw ei enw ef.

20. Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys â thi y drylliaf y cenhedloedd, ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd;

21. A thi hefyd y gwasgaraf y march a'r marchwr; ac â thi y drylliaf y cerbyd a'i farchog;

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 51