Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth.