10. A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a'r a'i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr Arglwydd.
11. Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw;
12. Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a'r hon a'ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olaf o'r cenhedloedd yn anialwch, yn grastir, ac yn ddiffeithwch.
13. Oherwydd digofaint yr Arglwydd nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: pawb a êl heibio i Babilon a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.
14. Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr Arglwydd.
15. Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr Arglwydd yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi.
16. Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon, a'r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf: rhag cleddyf y gorthrymwr y troant bob un at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob un i'w wlad.
17. Fel dafad ar wasgar yw Israel; llewod a'i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a'i hysodd, a'r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a'i diesgyrnodd.
18. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'i wlad, fel yr ymwelais â brenin Asyria.