8. Oeddynt fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.
9. Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
10. Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur‐ganllawiau hi: canys nid eiddo'r Arglwydd ydynt.
11. Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr Arglwydd.
12. Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn:
13. A'r proffwydi a fuant fel gwynt, a'r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.
14. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a'r bobl hyn yn gynnud, ac efe a'u difa hwynt.
15. Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr Arglwydd; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, ac ni ddeelli beth a ddywedant.
16. Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.
17. A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a'th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a'th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a'th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a'th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dloda hi â'r cleddyf.
18. Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
19. A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.
20. Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddywedyd,
21. Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant:
22. Onid ofnwch chwi fi? medd yr Arglwydd: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i'r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i'r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?
23. Eithr i'r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt‐hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.
24. Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi'r glaw cynnar a'r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
25. Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a'ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych.
26. Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant.
27. Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant.
28. Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus.