2. Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr Arglwydd, eto yn gelwyddog y tyngant.
3. O Arglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a'u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.
4. A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd, na barn eu Duw.
5. Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a wybuant ffordd yr Arglwydd, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd‐dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau.
6. Oblegid hyn llew o'r coed a'u tery hwy, blaidd o'r anialwch a'u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a'r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
7. Pa fodd y'th arbedwn am hyn? dy blant a'm gadawsant i, ac a dyngasant i'r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.
8. Oeddynt fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.
9. Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
10. Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur‐ganllawiau hi: canys nid eiddo'r Arglwydd ydynt.
11. Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr Arglwydd.
12. Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn: