16. Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.
17. A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a'th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a'th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a'th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a'th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dloda hi â'r cleddyf.
18. Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
19. A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.
20. Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddywedyd,
21. Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant:
22. Onid ofnwch chwi fi? medd yr Arglwydd: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i'r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i'r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?
23. Eithr i'r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt‐hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.
24. Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi'r glaw cynnar a'r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.