Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:15-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Oherwydd wele, myfi a'th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd, ac yn wael ymhlith dynion.

16. Dy erwindeb a'th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr, myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr Arglwydd.

17. Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a'r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.

18. Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a'i chymdogesau, medd yr Arglwydd; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.

19. Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?

20. Am hynny gwrandewch gyngor yr Arglwydd, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a'i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o'r praidd a'u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.

21. Gan lef eu cwymp hwynt y crŷn y ddaear: llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch.

22. Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.

23. Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys.

24. Damascus a lesgaodd, ac a ymdrŷ i ffoi, ond dychryn a'i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a'i daliodd hi fel gwraig yn esgor.

25. Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?

26. Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a'r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd.

27. A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus, ac efe a ddifa lysoedd Benhadad.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49