Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 49:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Am feibion Ammon, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Onid oes meibion i Israel? onid oes etifedd iddo? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad, a'i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef?

2. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon; a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol, a'i merched hi a losgir â thân: yna Israel a feddianna y rhai a'i meddianasant ef, medd yr Arglwydd.

3. Uda, Hesbon, am anrheithio Ai: gwaeddwch, chwi ferched Rabba, ymwregyswch mewn sachliain; alaethwch, a gwibiwch gan y gwrychoedd: oblegid eu brenin a â i gaethiwed, ei offeiriaid a'i benaethiaid ynghyd.

4. Paham yr ymffrosti di yn y dyffrynnoedd? llifodd dy ddyffryn di ymaith, O ferch wrthnysig, yr hon a ymddiriedodd yn ei thrysorau, gan ddywedyd, Pwy a ddaw ataf fi?

5. Wele, myfi a ddygaf arswyd arnat ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd, rhag pawb o'th amgylch: a chwi a yrrir allan bob un o'i flaen, ac ni bydd a gasglo y crwydrad.

6. Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr Arglwydd.

7. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt?

8. Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy.

9. Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nos, hwy a anrheithient nes cael digon.

10. Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a'i frodyr a'i gymdogion, ac nid yw efe.

11. Gad dy amddifaid, myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.

12. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o'r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr.

13. Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 49