Jeremeia 48:11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei blas arni, ac ni newidiodd ei harogl.