Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 46:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, yn erbyn y Cenhedloedd,

2. Yn erbyn yr Aifft, yn erbyn llu Pharo‐necho brenin yr Aifft, yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin Babilon ei daro, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda.

3. Teclwch y darian a'r astalch, a nesewch i ryfel.

4. Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt, farchogion; sefwch yn eich helmau, gloywch y gwaywffyn, gwisgwch y llurigau.

5. Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig, wedi cilio yn eu hôl, a'u cedyrn wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr Arglwydd.

6. Na chaed y buan ffoi, na'r cadarn ddianc; tua'r gogledd, gerllaw afon Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant.

7. Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a'i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd?

8. Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi, a'i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonydd: a hi a ddywed, Mi a af i fyny, ac a orchuddiaf y ddaear; myfi a ddifethaf y ddinas, a'r rhai sydd yn trigo ynddi.

9. O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a'r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a'r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa.

10. Canys dydd Arglwydd Dduw y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion: a'r cleddyf a ysa, ac a ddigonir, ac a feddwir â'u gwaed hwynt: canys aberth sydd i Arglwydd Dduw y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates.

11. O forwyn, merch yr Aifft, dos i fyny i Gilead, a chymer driagl: yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau; canys ni bydd iachâd i ti.

12. Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd, a'th waedd a lanwodd y wlad; canys cadarn wrth gadarn a dramgwyddodd, a hwy ill dau a gydsyrthiasant.

13. Y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd wrth Jeremeia y proffwyd, y deuai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac y trawai wlad yr Aifft.

14. Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod; oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd.

15. Paham y syrthiodd dy rai cryfion? ni safasant, am i'r Arglwydd eu gwthio hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 46