Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a'ch gwragedd a lefarasoch â'ch genau, ac a gyflawnasoch â'ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod‐offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch.