Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 44:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt:

3. O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i'm digio i, gan fyned i arogldarthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na'ch tadau.

4. Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi, gan foregodi, ac anfon, i ddywedyd, Na wnewch, atolwg, y ffieiddbeth hyn, yr hwn sydd gas gennyf fi:

5. Eto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogldarthent i dduwiau dieithr.

6. Am hynny y tywalltwyd fy llid a'm digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y maent hwy yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw.

7. Ac yn awr fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a'r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwi weddill?

8. Gan fy nigio i â gweithredoedd eich dwylo, gan arogldarthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i'ch difetha eich hunain, ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear.

9. A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a'ch drygioni eich hunain, a drygioni eich gwragedd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?

10. Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o'ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau.

11. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn chwi er niwed, ac i ddifetha holl Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 44