14. Felly yr holl bobl, y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa, a droesant ac a ddychwelasant, ac a aethant at Johanan mab Carea.
15. Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd, ynghyd ag wythnyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon.
16. Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a'r gwragedd, a'r plant, a'r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe o Gibeon.
17. A hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham, yn agos at Bethlehem, i fyned i'r Aifft,
18. Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.