Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 41:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o'r had brenhinol, a phendefigion y brenin, sef dengwr gydag ef, at Gedaleia mab Ahicam i Mispa: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa.

2. Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd, efe a'r dengwr oedd gydag ef, ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â'r cleddyf, ac a'i lladdasant ef, yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad.

3. Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef, sef gyda Gedaleia, ym Mispa, a'r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfelwyr.

4. A'r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia, heb neb yn gwybod,

5. Yna y daeth gwŷr o Sichem, o Seilo, ac o Samaria, sef pedwar ugeinwr, wedi eillio eu barfau, a rhwygo eu dillad, ac ymdorri, ag offrymau ac â thus yn eu dwylo, i'w dwyn i dŷ yr Arglwydd.

6. Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i'w cyfarfod hwynt, gan gerdded rhagddo, ac wylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch at Gedaleia mab Ahicam.

7. A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nethaneia a'u lladdodd hwynt, ac a'u bwriodd i ganol y pydew, efe a'r gwŷr oedd gydag ef.

8. Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, Na ladd ni: oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fêl. Felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 41